John Stow | |
---|---|
Cofeb John Stow yn Eglwys Sant Andreas Undershaft | |
Ffugenw | Robert Seymour |
Ganwyd | 1525 Llundain |
Bu farw | 6 Ebrill 1605 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor |
Croniclydd ac hynafiaethydd o Loegr oedd John Stow (1525 – 6 Ebrill 1605).[1]
Ganed ef yn Llundain. Ar y cychwyn, teiliwr ydoedd wrth ei grefft, a fe'i derbynwyd yn aelod o Gwmni'r Teilwriaid Masnachol ym 1547. O ran ei ddiddordebau llenyddol, canolbwyntiodd yn gyntaf ar farddoniaeth Saesneg, cyn iddo ddechrau casglu ac adysgrifennu llawysgrifau oddeutu 1564, a chyflawni gweithiau hanesyddol ei hunan, y rhai cyntaf yn llên Lloegr i fod yn seiliedig ar astudiaeth systematig o gofnodion cyhoeddus.[2]
Atynnodd sylw'r awdurdodau ar amheuaeth o reciwsantiaeth, ac ym 1569 a 1570 fe'i cyhuddwyd o feddu ar lenyddiaeth Babyddol. Fe'i dygwyd o flaen y comisiwn eglwysig, ond ni chafodd gosb. Dywed iddo wario cymaint â £200 y flwyddyn ar lyfrau a llawysgrifau, a hynny dan nawdd Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a chyda'i bensiwn o'r Teilwriaid Masnachol. Codwyd corffddelw ohono gan ei weddw yn Eglwys Sant Andreas Undershaft, Stryd Leadenhall, Llundain, sydd yn goroesi o hyd.
Yn ogystal â chynorthwyo'r Archesgob Matthew Parker wrth olygu testunau hanesyddol, ei brif gyhoeddiadau oedd: The Workes of Geoffrey Chaucer (1561; argraffwyd ei nodiadau eraill ar bwnc Chaucer gan Thomas Speght ym 1598); Summarie of English Chronicles (1565), gwaith hanesyddol gwreiddiol; The Chronicles of England (1580), a ailenwyd yn ddiweddarach The Annales of England; yr ail argraffiad o Holinshed's Chronicles (1585–7); ac A Survey of London (1598 a 1603), gwaith gwerthfawr am ei wybodaeth fanwl o hanes a thraddodiadau Dinas Llundain.